Ble i gael hadau a phlanhigion blodau gwyllt brodorol y DU
Unwaith ichi ddewis eich safle a bod gennych ddealltwriaeth dda o’r hyn sy’n tyfu yno eisoes gallwch gychwyn ar yr hwyl – creu hafan blodau gwyllt ar gyfer bywyd gwyllt brodorol.
Cadw pethau’n lleol
Os ydych yn anelu i wella safle ar gyfer bywyd gwyllt, cofiwch sicrhau bod yr hadau neu’r planhigion yr ydych yn eu cyflwyno’n rhai brodorol ac, orau oll, o ffynhonnell leol. Dylech osgoi plannu planhigion wedi eu mewnforio allai gyflwyno plâu neu afiechydon.
Pa flodau gwyllt ddylwn i eu tyfu?
Rydym yn argymell tyfu cymysgedd lliwgar o flodau gwyllt brodorol y DU er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar eich cyfer chi a’ch bywyd gwyllt lleol, yn ogystal â chymysgedd o rywogaethau unflwydd, parhaol ac eilflwydd (darllenwch ein geirfa A-Y o flodau gwyllt i ddysgu mwy am y rhain).
Mae llawer o wahanol flodau gwyllt gwych i ddewis ohonyn nhw! Edrychwch ar ein horiel blodau gwyllt am ysbrydoliaeth a ffotograffau o flodau gwyllt sy’n frodorol i’r DU.
Pam dewis planhigion brodorol?
Yn fras, gellir dweud bod planhigion brodorol wedi cyrraedd ardal yn wreiddiol heb ymyrraeth pobl. Yn wahanol i blanhigion y gellir dweud eu bod yn ‘anfrodorol’, ‘egsotig’ neu’n ‘estron’, sydd ond wedi cyrraedd man penodol diolch i gasglwyr planhigion.
Mae planhigion sy’n frodorol i ardal wedi esblygu perthynas gymhleth, mewn rhai achosion dros filenia, ochr-yn-ochr â’r planhigion a’r anifeiliaid eraill o’u hamgylch. Mae gan bob planhigyn rôl i’w chwarae mewn ardal benodol, er enghraifft fel ffynhonnell bwyd ar gyfer math penodol o wenyn neu löyn byw.
- Cydbwysedd - mae gan blanhigion brodorol amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd nid yn unig yn dibynnu arnyn nhw i oroesi, ond hefyd i sicrhau nad yw un planhigyn yn drech na’r llall.
- Goresgynnol - i’r gwrthwyneb, nid oes gan blanhigion egsotig neu anfrodorol yr un cysylltiad. Mewn rhai achosion gall planhigion droi’n ‘oresgynnol’, a gallant gael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt eraill, a gallant fod yn anodd iawn i’r rheoli.
Sut i brynu planhigion brodorol y DU
Er bod llawer o ganolfannau garddio bellach yn gwerthu hadau blodau gwyllt brodorol y DU, mae angen cymryd gofal i sicrhau bod yr hadau yr ydych yn eu prynu wir o darddiad brodorol ac nad ydynt wedi dod o fathau garddwrol allai fod wedi eu mewnforio.
- Gwiriwch y label - gallwch gyflwyno hadau neu blanhigion brodorol i safle os ydynt yn tarddu o’r DU, felly gwiriwch i weld os ydynt wedi eu labelu fel hadau brodorol y DU.
- Ffynhonnell ddibynadwy - i fod yn siŵr o hyn, dylech ond prynu planhigion a hadau sy’n wirioneddol frodorol oddi wrth gyflenwr dibynadwy.
- Pecyn cymysg - gall llawer o’r cymysgeddau hadau blodau gwyllt a geir mewn canolfannau garddio ac ar-lein gynnwys hadau planhigion egsotig, sydd wedi eu cynnwys am eu lliw neu eu ‘sioe’, ond na fyddant efallai’r un mor fuddiol i fywyd gwyllt y DU â gwir flodau gwyllt brodorol y DU.
- Tarddiad - dylai’r cyflenwr allu dweud wrthych o ba wlad y mae’r hadau a’r planhigion yr ydych yn eu prynu’n tarddu.
- Eich safle - yn ogystal, dylai cyflenwr dibynadwy o hadau a phlanhigion blodau gwyllt sy’n tarddu o’r DU allu cynnig cyngor ar y planhigion neu’r cymysgedd hadau gorau ar gyfer eich safle.
Mae PlantWild yn gyflenwr wedi ei leoli yng Nghymru a dylai allu darparu cyflenwad sylweddol o hadau ar gyfer prosiect mawr yn ogystal â phecynnau hadau bychain a phlanhigion unigol.