Ein cennad a’n heffaith
Tyfu’n Wyllt yw menter gwaith maes genedlaethol Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew (Kew). Mae’r rhaglen yn lledaenu neges Kew y tu hwnt i furiau ein dwy ardd fotaneg, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gwahanol. Cawn ein cefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a thrwy gyfraniadau preifat a chyhoeddus.
Trwy ymgyrch Tyfu’n Wyllt, mae Kew yn ysbrydoli miliynau o bobl i dyfu fel grŵp, bod yn egnïol, dysgu am ac ymgysylltu â natur, a rhoi yn ôl trwy wirfoddoli. Gall hyn i gyd wella iechyd a lles, yn ogystal â mannau trefol a diffaith ledled y DU.
Mae Tyfu’n Wyllt yn chwarae rhan annatod ym mlaenoriaethau strategol Kew gan helpu i greu a throsglwyddo rhaglen gwaith maes ragorol, fydd yn helpu Kew i gyflawni eu gweledigaeth o fyd ble mae planhigion a ffyngau’n cael eu deall, eu gwerthfawrogi a’u gwarchod – gan fod ein bywydau’n dibynnu arnynt.
Ein cennad
Cennad Tyfu’n Wyllt yw dwyn pobl ynghyd i werthfawrogi a mwynhau blodau gwyllt a ffyngau.
Ein heffaith a’n cyrhaeddiad
Rydym yn dwyn pobl ynghyd trwy eu hannog i ymgysylltu trwy natur. Byddwn yn eu hysbrydoli i ddysgu pam fod planhigion a ffyngau brodorol yn bwysig a byddwn yn eu galluogi i rannu eu profiadau gyda’r bobl o’u hamgylch.
Mae Tyfu’n Wyllt yn darparu cymunedau gyda’r adnoddau a’r sgiliau i drawsnewid gofodau a newid bywydau, gan ledaenu ein neges ymhell ac agos pam fod planhigion a ffyngau brodorol mor bwysig i ddyfodol dynoliaeth.
CYMRU
Hadau Blodau Gwyllt
- 40 mil o Unigolion a theuluoedd
- 4 mil o Grwpiau gwirfoddol
- 81 mil o Gyfranogwyr grŵp
Tyfu ffwng
- 590 o Grwpiau gwirfoddol
- 3.6 mil o Gyfranogwyr grŵp
Prosiectau a arianwyd
- 24 Prosiect dan arweiniad ieuenctid
- 57 Prosiect dan arweiniad y gymuned
- 38 mil o Gyfranogwyr cymunedol
YR ALBAN
Hadau Blodau Gwyllt
- 64 mil o Unigolion a theuluoedd
- 6 mil o Grwpiau gwirfoddol
- 146 mil o Gyfranogwyr grŵp
Tyfu ffwng
- 660 o Grwpiau gwirfoddol
- 1.8 mil o Gyfranogwyr grŵp
Prosiectau a arianwyd
- 42 Prosiect dan arweiniad ieuenctid
- 59 Prosiect dan arweiniad y gymuned
- 11 mil o Gyfranogwyr cymunedol
GOGLEDD IWERDDON
Hadau Blodau Gwyllt
- 18 mil o Unigolion a theuluoedd
- 2 fil o Grwpiau gwirfoddol
- 47 mil o Gyfranogwyr grŵp
Tyfu ffwng
- 270 o Grwpiau gwirfoddol
- 1.6 mil o Gyfranogwyr grŵp
Prosiectau a arianwyd
- 11 Prosiect dan arweiniad ieuenctid
- 38 Prosiect dan arweiniad y gymuned
- 27 mil o Gyfranogwyr cymunedol
LLOEGR
Hadau Blodau Gwyllt
- 638 mil o Unigolion a theuluoedd
- 46 mil o Grwpiau gwirfoddol
- 1.2 miliwn o Gyfranogwyr grŵp
Tyfu ffwng
- 6 mil o Grwpiau gwirfoddol
- 42 mil o Gyfranogwyr grŵp
Prosiectau a arianwyd
- 81 Prosiect dan arweiniad ieuenctid
- 140 Prosiect dan arweiniad y gymuned
- 38 mil o Gyfranogwyr cymunedol